Amser i Fentro

Amser i Fentro

Mae prosiect Amser i Fentro dal yn gyrru yn ei flaen gyda 9 o bobl ifanc o Wynedd a Môn yn derbyn cymorth cyllid Cronfa Arloesol Arfor, LEADER a Llywodraeth Cymru i weithio diwrnod yr wythnos ar ei mentrau drwy raglen Llwyddo’n Lleol.

Busnesu a Busnesau

Yn ystod mis Ionawr bu rhai o’r criw yn cyfweld â 10 o fusnesau ar draws Gwynedd a Môn. Bu’r cyfweliadau yn trafod profiadau’r busnesau ac yn eu holi am ba gyngor bysa gyna nhw i bobl ifanc yr ardal er mwyn iddyn nhw allu llwyddo’n lleol. Mae’r busnesau a chyfwelwyd yn amrywiol yn sail ei sectorau gyda rhai yn ymwneud ac amaethyddiaeth, technoleg, dylunio ac adeiladu. Pwrpas y gyfres yw dangos i bobl ifanc yr ardal fod yno pob math o yrfaoedd a chyfleoedd yn bodoli yma yng ngogledd Cymru.

Mae’r cyfweliadau i gyd ar gael i’w gwylio ar dudalen Facebook Llwyddo’n Lleol. https://www.facebook.com/Llwyddon-Lleol-2050-111221147002339

Cardiau Mwydro

Mis yma fu Sioned Young, un o’r criw Amser i Fentro, lansio casgliad newydd o gardiau. Mae’r casgliad yn cynnwys 32 o ddyluniadau unigryw ac mae pob cerdyn ar gael i’w bersonoli gydag unrhyw galigraffi llaw.

Yn ogystal â’r gyfres wych hyn, comisiynwyd Sioned i arlunio tair merch Gymreig ar gyfer casgliad Merched Cymraeg busnes Clyd. Cafodd y casgliad hwn ei arddangos wythnos yma ar raglen Prynhawn Da, S4C. https://www.facebook.com/PrynhawnDaS4C/videos/815200069030843

Sesiwn Zoom efo Ffermwyr Ifanc Môn

Elfen bwysig o raglen Amser i Fentro yw bod yr entrepreneuriaid yn rhannu eu profiadau ac yn ysbrydoli pobl ifanc eraill ar draws y ddwy sir. Mis yma cafodd Tomos Owen (Swig), Huw Jones (Llaeth Medra) a Lois Jones (Sos Coch) eu gwahodd i siarad gydag aelodau ifanc Ffermwyr Ifanc Môn. Cafodd y sgwrs ymateb wych ac rydym yn gobeithio ei fod wedi ysbrydoli rhai o’r aelodau i ystyried dechrau menter eu hunain yn y dyfodol!

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU