Newyddion & Blog AGW

Pam dylwn ni siopa’n lleol?

Dilys Glosters
Dilys yn ymweld a’r siop cyntaf ar ei thaith, sef Glosters ym Mhorthmadog

Dros yr wythnosau diwethaf mae Arloesi Gwynedd Wledig wedi helpu Dilys y ddafad ddu fynd ar daith o amgylch busnesau Gwynedd. Cychwynnodd ei thaith yn siop Glosters ym Mhorthmadog, ac ers hynny mae wedi bod mewn nifer o wahanol fusnesau lleol. Mae pob busnes yn enwebu busnes lleol arall maent yn ei ddefnyddio, gan ddangos i’n dilynwyr ar facebook, twitter ac Instagram bod yr arian maent yn ei wario mewn busnes lleol yn aros yn lleol. Mae yna nifer fawr o resymau pam dylwn siopa’n lleol, a dyma rhai o’r prif resymau…

 

  1. Mae’n helpu’r economi leol

Mae ymchwil yn dangos am bob £1 sy’n cael ei wario mewn busnes maint bach i ganolig mae 63c yn aros yn yr economi leol. Cymharwch hyn gyda’r ffaith mai dim ond 40c sy’n aros pan rydych yn mynd at fusnes mwy, mae’n bosib deall y gwahaniaeth mae ein harferion siopa yn ei gael.

 

  1. Dod o hyd i ddarnau unigryw

Mae nifer o fusnesau lleol yn stocio cynnyrch unigryw sydd wedi cael ei greu yn lleol ac sydd ddim ar gael rhywle arall. Tra bu Dilys yn ymweld â Siop Iard yng Nghaernarfon, esboniodd Angela Evans, gemydd ac un o berchnogion y siop “Mae pobl yn hoffi cael rhywbeth unigryw ac sy’n arbennig iddyn nhw. Gan ein bod yn fusnes bach mae ganom y gallu i greu darnau sy’n hollol bersonol os dymunir.”

Dilys Siop Iard Angela
Angela Evans gyda Dilys yn Siop Iard, Caernarfon

 

  1. Mae’n ddewis mwy moesegol

Ydych chi’n poeni am eich eco-gymhwysterau? Wrth brynu bwyd allan o dymor rydych yn gwneud dim i’w leihau. Mae’r mefus rydych wedi ei brynu o’r archfarchnad ym mis Ionawr wedi hedfan nifer iawn o filltiroedd ac wedi cael ei lapio mewn cryn dipyn o blastig. Ond mae’n debygol iawn nad yw’r afal rydych wedi ei brynu o’r siop ffrwythau a llysiau lleol wedi teithio mor bell. Yn ogystal â chefnogi ffermwyr lleol, mae’n golygu bod y bwyd yn debygol o gynnwys mwy o faeth a llai o ddeunydd pacio.

 

  1. Cefnogi’r Iaith Gymraeg

Drwy fynd at fusnes lleol sy’n cyflogi siaradwyr Cymraeg rydych yn cael y cyfle i ddefnyddio’r iaith. Dychmygwch fynd i siop trin gwallt, lle mae’n bwysig cyfleu yn union beth rydych eisiau, ond rydych wedi camddeall eich gilydd…

Bu Dilys yn ymweld â siop trin gwallt Igam Ogam yng Nghricieth tra ar ei thaith ac esboniodd Anwen Jones un o berchnogion y siop “Mae staff Igam Ogam yn siarad Cymraeg, ac rydym yn falch iawn o hynny. Mae’n bwysig iawn bod ein cwsmeriaid yn cael esbonio peth maent eisiau yn yr iaith maent fwyaf cyffyrddus ynddi. Mae hyn yn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn hapus gyda’u gwallt ac yn dod yn ôl atom dro ar ôl tro.”

Dilys Igam Ogam Llinos
Dilys yn cael gwneud ei gwlan yn Igam Ogam, Criccieth

 

  1. Mae’n helpu’r gymuned

Mae nifer o fusnesau lleol yn cynnal digwyddiadau, o glwb gweu i ŵyl lenyddol. Os nad yw’r busnesau yn derbyn cefnogaeth bydd y digwyddiadau yma yn diflannu gyda hwy.

Tra’n ymweld a Palas Print, siop lyfrau yng Nghaernarfon, fe gaeth Dilys fwynhau noson ddiddorol iawn, esboniodd Eirian James, perchennog Palas Print “Da ni’n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau yma yn Palas Print drwy’r flwyddyn. Y diweddaraf oedd sgwrs gydag awudres am ei nofel newydd a cherddoriaeth gan artist lleol poblogaidd. Mae nosweithiau fel hyn yn rhoi cyfle i bobl ddod at ei gilydd, ac yn ychwanegu at yr bwrlwm digwyddiadau cymunedol sydd yng Nghaernarfon.”

 

  1. Cael profi cyn prynu

Does neb yn gwadu bod posib cael pris ychydig yn rhatach yn yr archfarchnadoedd oherwydd eu gallu i fanteisio ar economïau maint. Er hyn, be os nad oeddech yn ei hoffi ar ôl ei brynu, byddai’n wastraff arian wedyn! Mae nifer o fusnesau bach yn caniatau i chi drio eu cynnyrch cyn ei brynu.

Fe wnaeth Dilys fwynhau ei hymweliad yng Ngwin Llyn Wines, siop gwin ym Mhwllheli, yn fawr iawn, gan eu bod nhw’n credu’n gryf ei fod yn bwysig i gwsmeriaid brofi’r cynnyrch yn gyntaf. Esboniodd Dean Pritchard perchennog y siop “Mae’n gwneud gwahaniaeth mawr cael trio rhywbeth cyn ei brynu. Mae’n annhebygol iawn cael y cyfle i agor potel o win yn eil yr archfarchnad, ac yn amhosib os yn siopa ar-lein. Yn ein profiad ni mae ein cwsmeriaid yn gwerthfawrogi’r cyfle i wneud yn siŵr eu bod yn prynu rhywbeth maent yn mynd i fwynhau, ac felly’n dod yn ôl atom dro ar ôl tro i brynu hen ffefrynnau ac i chwilio am rywbeth newydd i’w drio.”

Dilys Gwin Llyn Wines
Dilys yn mwynhau sip o gin tra’n Gwin Llyn Wines, Pwllheli

 

Cadwch lygad allan am Dilys yn eich busnesau lleol, a dilynwch ei thaith ar-lein drwy ddilyn yr hashnod #DilynDilys ar facebook, twitter ac Instagram. Os hoffwch gymryd rhan yn y prosiect cysylltwch gyda Rhian ar 01766 514057 neu rhian@arloesigwyneddwledig.com

 

Amser i Fentro

Amser i fentro poeni cymraeg

Oes gennych chi syniad cyffrous ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd? Ydych wedi bod eisiau datblygu’r syniad yna ond methu dod o hyd i’r amser oherwydd eich gwaith dydd i ddydd? Gall Arloesi Gwynedd Wledig eich helpu!

agw_amser_i_fentro_logo.

Os ydych mewn gwaith llawn amser, a gyda syniad yr hoffwch ei ddatblygu, gall Arloesi Gwynedd Wledig eich rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod yr wythnos. Nid yn unig y bydd gennych un diwrnod yr wythnos am chwe mis i ganolbwyntio ar ddatblygu eich cynllun busnes, bydd Arloesi hefyd yn trefnu cefnogaeth gan arbenigwr yn y maes i’ch helpu.

Esboniodd Rhian Hughes o Arloesi Gwynedd Wledig “Mae unigolion mewn cyflogaeth llawn amser yn ffynhonnell bosibl o entrepreneuriaeth nad yw’n cael ei hecsbloetio ar hyn o bryd. Amcan y prosiect peilot yma yw caniatáu amser i unigolion ddatblygu syniadau wrth barhau i weithio. Gallent fod yn syniadau i wneud gyda’u gwaith, neu yn ddiddordeb tu allan i’r gwaith fel hobi.”

Dechreuodd Tim Lloyd, sylfaenwr y cwmni digwyddiadau chwaraeon Camu I’r Copa, ddatblygu ei gwmni wrth weithio fel diffoddwr tân. “Rwyf wastad wedi bod eisiau rhedeg cwmni fy hun, ac roeddwn yn siŵr y byddai’r syniad oedd gennyf yn gallu bod yn un llwyddiannus iawn petawn i’n dod o hyd i amser i’w wireddu. Mae’r prosiect yma yn gyfle arbennig iawn ar gyfer darpar entrepreneuriaid, un y byddwn i wedi bod yn ddiolchgar iawn ohono pan roeddwn i’n cychwyn fy musnes.”


Mae’r prosiect Amser I Fentro yn dynwared y cysyniad “amser 20%” a ddefnyddir gan rai cwmnïau mawr yn y sector breifat, fel Google a 3M. Mae’n galluogi staff i dreulio un rhan o bump o’u hamser yn datblygu prosiectau tu allan i’w rhaglen gwaith arferol, ac mae wedi arwain at arloesedd fel Gmail a’r ‘Post-it Note’.

Bydd Arloesi yn ad-dalu costau cyflog am 1 diwrnod yr wythnos am gyfnod o 6 mis. Bydd hyn yn caniatáu i’r unigolyn ddatblygu syniad newydd heb boeni am unrhyw golled mewn enillion. Gall hyn, a help gan arbenigwr ar hyd y ffordd arwain at syniadau busnes cyffrous iawn.

Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen gais a meini prawf i ymgeiswyr.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydi 20fed o Dachwedd 2017. Os oes gennych ddiddordeb a hoffwch mwy o wybodaeth cysylltwch gyda Rhian ar 01766 515946 neu rhian@arloesigwyneddwledig.com

Swyddi gwag, cyflogau uchel … yng Ngwynedd a Môn?

IMG_6705

Pa mor aml ydym ni’n clywed am bobl ifanc yn gadael i ddilyn eu huchelgais gyrfaol? Ond a oes rhaid iddi fod felly? Mae grŵp o bobl ifanc wedi cymryd yr her i argyhoeddi eu cyfoedion y gallant gael y cyfan heb gyfnewid Eryri am y trefi mawr.

Yn ystod yr haf, bydd cwmnïau technoleg yng Ngwynedd a Môn yn darparu mewnwelediad i 8 myfyriwr i’r cyfleoedd sy’n bodoli yn y sector hwn sy’n prysur dyfu.

Esboniodd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Datblygu’r Economi yng Nghyngor Gwynedd “Mae nifer o gyfleoedd gyrfa gwerth uchel yma, ac maent yn parhau i dyfu. Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio gyda datblygwyr ar amrywiaeth eang o ddatblygiadau posibl, a all ddod â dros 2000 o swyddi i’r ardal dros y 15-20 mlynedd nesaf.”

Yn ogystal ag ennill profiad gwaith gwerthfawr, bydd y myfyrwyr hefyd yn gweithio ar newid y canfyddiad nad yw Gwynedd a Môn yn cynnig cyfleoedd gyrfa o werth uchel. Byddant yn gweithio fel grŵp ac yn cyflwyno eu canfyddiadau mewn digwyddiad ar ddiwedd y prosiect.

LLun o'r 9 BAB Digidol
Y myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y prosiect Byw a Bod Digidol.

Mae Timon Owen yn un o’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan, ac ar hyn o bryd mae’n astudio Peirianneg Drydanol ym Mhrifysgol Bangor. Eglurodd “Rwy’n ffodus i fod yn gweithio yn NMi Gaming. Nid oedd gen i syniad bod y math yma o gwmni yn bodoli ym Mharc Menai cyn y prosiect yma.” Ychwanegodd “Mae’r ardal yma yn le gwych i fyw, ac os yw swyddi gwerth uchel yn bodoli yma, does dim rhaid i mi adael!”

Esboniodd Bethan Fraser-Williams o Arloesi Môn “Ein prif nod yw codi proffil y cyfleoedd yng Ngwynedd a Môn, a byddwn yn gwneud cyfres o ffilmiau byr drwy gydol yr haf a fydd yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol. Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i brofi agweddau eraill ar fywyd yng Ngwynedd a Môn, gan gynnwys padl fyrddio, mynydda a choginio gyda chynnyrch lleol!”

Mae Arloesi Gwynedd Wledig ac Arloesi Môn yn chwilio am atebion newydd i’r heriau sy’n wynebu economi Gwynedd a Môn. Derbyniodd y prosiect gyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir trwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cael ei rhan-gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA), Cyngor Gwynedd ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.

Digwyddiad Seryddiaeth i Fusnesau Twristiaeth Eryri

IMG_0762 low res

Ar ddydd Mercher, 26ain Ebrill cynhaliwyd digwyddiad Seryddiaeth ar gyfer busnesau twristiaeth Eryri yng Ngwersyllfa Llyn Gwynant. Cawsom ddiddordeb mawr yn y digwyddiad gyda dros 40 o fusnesau twristiaeth yn mynychu’r noson. Prif nod y digwyddiad oedd hyfforddi ac ysbrydoli busnesau twristiaeth i gynnal eu digwyddiadau seryddiaeth eu hunain.

Cynhaliwyd y noson gan Allan Trow a Martin Griffiths o Dark Sky Wales. Allan yw’r Perchennog Dark Sky Wales a chyn-ddarlithydd mewn seryddiaeth ym Mhrifysgol Morgannwg ac mae Martin Griffiths yn awdur a seryddwr proffesiynol a chyn Uwch Ddarlithydd mewn Seryddiaeth ym Mhrifysgol De Cymru.

Dechreuodd y noson gyda sesiwn yn y Planetariwm pop-up yn yr ysgubor gyda chyflwyniad gan Martin Griffiths.

 

Planitaruim LLyn Gwynant
Planetariwm pop-up yn yr ysgubor
mabinogion conseltaions
Cysterau y Mabinogion

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Aethom i mewn i’r Planetariwm pop-up a chawsom daith o amgylch awyr y nos, dysgu am y cytserau, eu straeon a’u harwyddocâd mewn llên gwerin Gymreig / Mabinogi.  Gwelsom rai o’r planedau a lleuadau sy’n creu ein cysawd yr haul.

Yna, tua 9:30 pan oedd hi wedi dechrau tywyllu, aethom i gyd  allan i’r cae lle’r roedd Allan wedi sefydlu telesgop i ni gael golwg trwy, a daeth rhai o’r busnesau eu hysbienddrych gyda nhw. Hefyd ddefnyddiwyd App am ddim gennym ar ein ffonau clyfar. Enw’r App yw ‘Sky Portal a oedd yn caniatáu i ni i weld enwau’r sêr fel y maent yn ymddangos yn yr awyr.

 

IMG_0449
Busnesau yn dysgu am awyr y nos
sky potal app
App ‘Sky Portal’ ar gyfer Smart Phones (iPhones & Android)

Roeddem yn lwcus iawn gyda’r tywydd, cawsom awyr glir yn Nant Gwynant. Uchafbwynt y noson oedd gweld y blaned Iau a’i 4 lleuad drwy’r Telesgop.

jupiter and 4 moons
Y planed Iau a’r 4 lleuad drwy telesgop

Dywedodd Medwen Edwards o Brynweirglodd, Cwmystradllyn, “Roedd y cyflwyniad yn ddiddorol iawn ac y cysylltiadau gyda’r chwedlau y Mabinogion. Hefyd roedd yn wych gweld y sêr a’r blaned  Iau a Martin ac Allan yn egluro’r gwahanol sêr a’r planedau i ni.”

Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi derbyn statws awyr dywyll ryngwladol – un o ddim ond 11 yn fyd-eang. Mae statws a ddyfarnwyd i Eryri yn cael ei roi gan y Gymdeithas Ryngwladol Sky Dark i leoedd sydd wedi profi ansawdd eu haer nos yn rhagorol ac ymdrechion go iawn yn cael eu gwneud i leihau llygredd golau.

Dyma fidio byr o’r noson:

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’n prosiect peilot ‘Awyr Dywyll Gwynedd’. Rydym yn treialu’r prosiect gyda 14 o ddarparwyr llety sy’n cael eu lleoli yn y Parc Eryri. Mae’r busnesau wedi mynychu gweithdy ar sut y gall busnesau fanteisio ar y dynodiad Awyr Dywyll yn Eryri. Maent hefyd wedi derbyn ymweliad safle, ysbienddrych a bydd hefyd yn derbyn taflen Awyr Dywyll bwrpasol ar gyfer eu busnes. Nod y prosiect hwn yw ymgysylltu â’r sector twristiaeth er mwyn dangos sut y gall Astro-dwristiaeth cael ei becynnu a’i gyflwyno i dwristiaid. Fel gyda phob prosiect LEADER eraill, y nod yw gweithio’n ddwys gyda nifer fach o fusnesau, cyn rhannu gwersi a ddysgwyd gyda chynulleidfa ehangach.

Mae gan y seryddwr Martin Griffiths llyfr ar gael am y cysylltiad y sêr a’r Mabinogi.  Enw’r llyfr yw ‘Dark Land, Dark Skies – The Mabinogion in the Dark Sky’. https://www.serenbooks.com/productdisplay/dark-land-dark-skies

Am fwy o wybodaeth am y prosiect hwn cysylltwch â rachel@mentermon.com

 

 

Miloedd o bunnoedd wedi ei godi gan Rhodd Eryri!

AW 23.01.17-7

Ers lansiad Rhodd Eryri ym mis Gorffennaf 2016 mae nifer o fusnesau twristiaeth fwyaf blaenllaw Eryri wedi llwyddo i godi miloedd o bunnoedd i gefnogi prosiectau pwysig yn y Parc Cenedlaethol.

Mae Rhodd Eryri yn gynllun peilot sy’n rhoi’r dewis i ymwelwyr roi rhodd wirfoddol i brosiectau lleol.  Gwneir hyn drwy ychwanegu swm bach at gost eitemau fel llety, pryd o fwyd neu weithgaredd. Yn nodweddiadol, nid yw hwn fwy na £1 fesul taliad, ac yn aml mae’n llai.

Ar hyn o bryd croesewir yr Wyddfa rhyw 600,000 o ymwelwyr pob blwyddyn, ffigwr sydd wedi dyblu ers 2007. Mae hyn yn cynnwys mwy na’r nifer o ymwelwyr â Ben Nevis, Scafell Pike, Mont Blanc a Everest wedi’u cyfuno! Mae’n amlwg bod hyn yn cael effaith ar yr amgylchedd ac mae Rhodd Eryri yn rhoi cyfle i ymwelwyr roi ychydig yn ôl yn gyfnewid am eu mwynhad.

Dros y misoedd diwethaf mae bron i £3,500 wedi ei godi drwy’r cynllun. Bydd yr arian yma yn mynd i gyllido cwrs achrededig, sy’n cael ei redeg gan Gymdeithas Eryri, bydd yn dysgu sgiliau cadwraeth draddodiadol ar y mynydd i bobl ifanc.

Dywedodd John Harold o Gymdeithas Eryri, “Bydd yr arian yma yn galluogi 48 o bobl ifanc i gwblhau’r cwrs. Mae dysgu sgiliau traddodiadol, fel adeiladu waliau cerrig sych, yn hanfodol ar gyfer diogelu hanes a threftadaeth yr ardal i’r dyfodol. Yn ogystal, mae’n gyfle gwych i’r bobl ifanc ddysgu sgiliau newydd a fydd yn eu galluogi i weithio yn y byd cadwraeth.”

Erbyn heddiw mae 28 o fusnesau wedi ymuno gyda’r cynllun. Dywedodd Kate Worthington o Raw Adventures “Rydym yn rhan o’r cynllun hwn i helpu cefnogi parch, mwynhad, datblygiad a chadwraeth yr ardal arbennig hon … nid yw’r un o’r rhain yn bodoli ar wahân.”

rhodd_eryri_logo_leaf

Sefydlwyd y cynllun gan Arloesi Gwynedd Wledig sydd eisiau arbrofi â dulliau newydd o ymdrin â’r heriau sy’n wynebu ardaloedd gwledig. Pwrpas y peilot yma yw profi os oes awydd ymysg ymwelwyr a busnesau i dreialu gwahanol ddulliau o godi arian tuag at y prosiectau lleol.  Esboniodd Rhian Hughes o Arloesi, “Bu cynllun tebyg yn rhedeg yn Ardal y Llynnoedd ers 20 mlynedd ac mae’n codi dros £100,000 bob blwyddyn ar gyfer ystod o brosiectau. Ein gobaith yw bydd Rhodd Eryri yn tyfu dros y blynyddoedd nesaf i fod yr un mor llwyddiannus. Os byddai gennym 50 o fusnesau yn rhan o’r cynllun, rhagdybiwn byddai modd codi £22,000 y flwyddyn!”

Gellir cael mwy o wybodaeth a ffilmiau byr am y prosiect ar  www.rhodderyri.cymru

Tec a Sgwrs yng Ngogledd Cymru

(o’r Dde i’r Chwith): Aaron Warren, Rachel Roberts, Cynghorydd Jason Humphreys, Llywelyn Rhys, Gareth Harrison

Mae Arloesi Gwynedd Wledig ac Indycube i gynnal Noson Arloesi yn yr Hwb Arloesi ym Mhorthmadog.

Bydd noson o sgyrsiau, stondinau, arddangosfeydd, lluniaeth a chwrw chrefft yn cael ei chynnal yn yr Hwb Arloesi ym Mhorthmadog ar Dachwedd 24ain am 6.30pm.

Mae’r Hwb Arloesi yn lle cydweithio newydd gyda chyfleusterau rhannu desgiau sydd wedi agor ym Mhorthmadog. Mae’n brosiect sy’n cael ei dreialu gan Arloesi Gwynedd Wledig mewn partneriaeth ag Indycube, sydd eisoes wedi cyflwyno model cydweithio lwyddiannus yn Ne Cymru.

Mae’r gofod cydweithio, sydd wedi ei leoli yn yr Hen Lyfrgell ar Stryd y Capel, wedi bod yn boblogaidd ers iddo agor yn gynnar ym mis Hydref. Penderfynodd y trefnwyr, Rachel Roberts ac Aaron Warren o Arloesi Gwynedd Wledig, gynnal y digwyddiad hwn, a fydd yn cael ei redeg ar y cyd â Tec Gogledd Cymru, i ddathlu llwyddiant y lleoliad a denu mwy o gydweithwyr posibl o’r ardal gyfagos.

Meddai Gareth Harrison, sy’n ddefnyddiwr rheolaidd o’r gwasanaeth “Mae’r Hwb Arloesi yn adnodd gwerthfawr ar gyfer fy ngwaith. Y brif fantais yw’r hyblygrwydd – gallaf ddewis pa ddyddiau i ddefnyddio’r gofod ac yna talu am y dyddiau hynny yn unig, sydd yn berffaith i’m anghenion i. Mae’r cysylltiad rhyngrwyd hefyd yn gyflym iawn ac yn ddibynadwy.”

Bydd y siaradwyr ar y noson yn cynnwys sylfaenydd Indycube Mark Hooper, Carwyn Edwards o Tec Gogledd Cymru, Paul Lublock a Dylan Searell o Iechyd Elidir. Bydd y sgyrsiau yn canolbwyntio ar effaith technolegau newydd megis Realiti Rhithwir a gofal iechyd symudol, yn ogystal â chysylltedd a chymuned yng Nghymru.

Bydd stondinau o amgylch y lleoliad yn arddangos rhai prosiectau ysbrydoledig gan unigolion a chwmnïau lleol, gan ddangos y talentau unigryw sydd gan Wynedd i’w cynnig.

Ffotograff (o’r Dde i’r Chwith): Aaron Warren, Rachel Roberts, Cynghorydd Jason Humphreys, Llywelyn Rhys, Gareth Harrison

Gwasanaethau Anstatudol – Cydweithio gyda chymunedau yng Ngwynedd

barmouth-harbour

Mae disgwyl cynyddol yn ddiweddar ar gymunedau i gymryd cyfrifoldeb am asedau neu wasanaethau lleol yn sgil toriadau i’r pwrs cyhoeddus.

Nid yw hyn yn gysyniad hollol newydd, yn wir, mae rhai enghreifftiau o grwpiau cymunedol yn perchnogi asedau neu wasanaethau eisoes yn bodoli yn lleol, er bod nifer yn cwestiynu llwyddiant rhai ohonynt (does ond rhaid sôn am bwll nofio Harlech i wneud i rai unigolion ryddhau ebychiad hir.!!!). Beth bynnag yw eich barn, mae’r fenter gymunedol honno yn parhau i ddarparu gwasanaeth gwerthfawr i unigolion a chymunedau’r ardal, ac mae nifer o wersi i’w dysgu o enghreifftiau o’r math hwn o gynllun.

Fodd bynnag fel y sonnir eisoes yn sgil newidiadau i’r hinsawdd economaidd mae un ai’r disgwyliad, neu’r parodrwydd, i fod yn allanoli asedau neu wasanaethau gan gyrff cyhoeddus i gymunedau yn fwy cryf nac erioed ac yn her benodol i gymunedau wrth iddynt wynebu’r posibilrwydd o golli asedau a/neu wasanaethau.

Yn sgil yr uchod mae Arloesi Gwynedd Wledig (AGW) yn awyddus i gydweithio gyda chymunedau yng Ngwynedd er mwyn treialu a dysgu am fodelau gwahanol o drosglwyddo gwasanaethau i drigolion lleol. Prif nod y gwaith fyddai ceisio cyfrannu tuag at greu mentrau cymunedol fydd yn fecanweithiau ar gyfer darparu gwasanaethau i’r dyfodol.

Dros gyfnod yr haf aethpwyd allan i ‘alwad agored’ gan wahodd ceisiadau gan gymunedau fyddai yn fodlon ac yn awyddus i gydweithio gyda ni wrth geisio ymateb i’r her hon. Derbyniwyd adborth cadarnhaol iawn, a diddorol oedd gweld fod y canran uchaf o ymholiadau a cheisiadau yn dod o gymunedau yn ardal Meirionnydd o’r Sir.

Yn ystod mis Hydref rŵan byddwn yn cychwyn gweithio gyda chymunedau Bermo, Bala, Llanystumdwy, Nefyn a Dyffryn Ogwen ar yr her hon. Ac mae’n wir dweud ei fod yn her – gan mai dim syniadau am wasanaethau neu asedau bychain sydd gan y cymunedau hyn dan sylw – mae gan rhain ddyheadau uchelgeisiol sydd yn cynnwys perchnogi asedau a gwasanaethau amrywiol; o lyfrgelloedd, i amgueddfeydd, harbyrau, a thiroedd agored.

Byddwn yn edrych ymlaen at ddiweddaru ein darllenwyr ar y datblygiadau cychwynnol yn ystod y misoedd nesaf – felly cadwch lygaid ar ein blog!

Pwyntiau Ceir Trydan

Håkan Dahlström Photography

Mae’r dair blynedd diwethaf wedi gweld cynnydd rhyfeddol mewn galw am gerbydau trydan o fewn y DU, cododd y niferoedd o gofrestriadau newydd 3,500 yn 2013 i fwy na 43,000 erbyn diwedd Medi 2015.

Gyda gwestai cenedlaethol megis Travelodge a Premier Inn yn gosod pwyntiau ceir trydan o fewn eu safleoedd, mae’n bwysig i ni geisio a chystadlu gyda’r farchnad newidiol hwn.

Yn sgil hyn, gwelodd Arloesi Gwynedd Wledig gyfle i fonitro’r galw dros gyfnod o flwyddyn, drwy osod 5 pwynt gwefru mewn busnesau twristiaeth ym Meirionydd.

Bydd modd codi ymwybyddiaeth am y pwyntiau gwefru, y rhaglen a’r ardal drwy gofrestru’r manylion ar wefan Zapmap.

Ar ddiwedd y 12 mis, byddwn mewn sefyllfa i asesu deunydd o’r pwyntiau yma gyda’r gobaith y bydd yn annog defnyddwyr ceir trydan a thwristiaid i’r ardal.

Penderfynwyd ar beilota y cynllun ym Meirionnydd oherwydd ei fod yn ardal wledig. Yr oedd y gwaith ymchwil a wnaethpwyd yn cadarnhau mai dim ond tri pwynt gwefru oedd ar gael ac yn gweithio ar draws yr ardal. Yr oedd hyn felly yn cadarnhau fod bwlch ar y map a chyfle i weld effaith ar y niferoedd oedd yn teithio i, ac o gwmpas yr ardal.

Dewiswyd y busnesau drwy baratoi “galwad agored” ble yr oedd rhaid i fusnesau wneud cais i fod yn un o’r safleoedd prawf. Cawsant eu hasesu yn erbyn nifer o feini prawf megis lleoliadau, niferoedd o ymwelwyr, mynediad yn ogystal â pharodrwydd y perchenogion i fod yn bencampwr yn y maes.

Gyda cymorth gan Cyngor Gwynedd, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru a niferoedd o rwydweithiau busnes lleol yn cylchredeg yr wybodaeth, derbynnwyd dros 30 o ymholiadau a 10 cais llawn.

Pleser yw cadarnhau mai’r canlynol oedd y 5 safle llwyddiannus –
• Corris Caverns, Corris
• Fferm Hendy, Tywyn
• Byrdir Self Catering, Dyffryn Ardudwy
• Bythynnod Gelli Goch, Trawsfynydd
• Railway Cottage, Y Bala

Mi fydd y gwaith gosod yn cychwyn yn ystod wythnos 12fed Fedi ac mi fyddwn yn eich diweddaru ar y cynllun drwy roi negeseuon rheolaidd ar ein gweplyfr a Trydar @arloesi Gwynedd.

Y gobaith ar ôl blwyddyn o fonitro y byddwn yn rhannu’r wybodaeth, gwersi a ddysgwyd ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall gyda chwmnïau, unigolion a grwpiau cymunedol eraill fydd yn meddwl rhedeg cynllun o’i fath yn eu hardaloedd ei hunain.

Prosiect Ynni Plant – Glynllifon a Chanolfan Felinwnda

16 gorffennaf y bel ymbelydrol

Rydym bellach wedi cychwyn ar ein prosiect Ysgol Ynni i blant rhwng 8 a 12 oed. Prosiect peilot yw Ynni Plant sy’n ceisio ymgysylltu a phlant ifanc er mwyn cynyddu ei llythrennedd ynni yn y cyd-destun ynni lleol. Ar fore glawiog ym Mharc Glynllifon cawsom sesiwn gychwynnol gydag amryw o weithgareddau adeiladu tîm a chyflwyniad hwylus i’r byd ynni gwyrdd i’n paratoi ar gyfer y sesiynnau i’w dilyn. Bu’r plant yn datblygu dealltwriaeth hanesyddol o ynni gyda Osborn Jones a ddangosodd enghraifft o dyrbin dwr sef yr olwyn Pelton a sut mae’n aml iawn yn cael ei ddefnyddio I greu trydan dwr yn lleol ac yn fyd-eang.

1
Tim Cai Jones yn arbrofi’r olwyn Pelton

Yn ogystal â dysgu am ynni gwyrdd yn ei gyd-destun hanesyddol bu cyfle i’r plant ddod i adnabod ei gilydd drwy weithio mewn tîm i ddatrys problemau a chyfeiriannu gyda’r hyfforddwyr awyr agored Gwydion Tomos ac Arwel Elias. Yn brysur yn trio datrys sut i symud y bel ymbelydrol i’r bwced amddiffynnol a sut i groesi’r ‘gors’ gyda’u tîm cyfan ni lwyddodd y glaw i ddifetha’r sbri! Dywedodd Lisa Meleri Williams ‘mi ges i lawer o hwyl yn gweithio mewn tim i geisio symud y bel ymbelydrol i fewn i’r bwced! Mi lwyddon ni i gael y bel tennis, criced a golff i fewn i’r bwced oedd yn anodd iawn i ddechrau.’

2
Y Bel Ymbelydrol
3
Tîm Gwern yn ceisio croesi’r gors

 

Wythnos yn ddiweddarach, cynhaliwyd amryw o weithgareddau yn ymwneud ag egni disgyrchiant a ffiseg syml yng Nghanolfan Bro Llanwnda. Crëwyd ceir lego, parasiwtiau, rocedi, ceir gwyllt papur a bu criw yn ceisio cynllunio cerbyd ar gyfer un o’r sesiynau nesaf yng Nglynllifon. Eglurodd Caio Prys a fuodd yn creu ceir lego ac arbrofi ei cyflymder ei fod ‘wedi mwynhau creu’r ceir lego ac wedi dysgu bod mwy o bwysau ar y ceir yn gwneud iddynt symud yn gyflymach lawr yr allt.’

4
Gwilym, Caio a Ceiri yn arbrofi’r ceir lego
5
Tamsin, Martha a Lisa yn arbrofi’r ceir papur

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Eglurodd Osborn Jones yr hanes o ddefnyddio egni disgyrchiant mewn cyd-destun lleol wrth son am hanes y ceir gwyllt a ddenfyddir yn yr hen chwareli lleol. Gyda’r syniad o gar gwyllt mewn golwg a sut bu’r chwarelwyr yn eu defnyddio ar yr inclen aeth y grwp oedran 10+ ati i gynllunio car gwyllt at y sesiwn nesaf yng Nglynllifon lle bydd angen dylunio car sy’n symud lawr inclen ac yn hedfan ar draws afon yr amffitheatr.

6
Cyflwyniad Osborn Jones

Dros yr wythnosau nesaf bydd cyfle i dreialu amrywiaeth o weithgareddau eraill er mwyn datblygu diddordeb y plant yn y sector egni adnewyddadwy a pheiriannaeth drwy ganwio ar Llyn Padarn, sesiwn Gwyllt Grefft, trip tanddaearol ym Mhenmachno a mwy.

 

Pam treialu Ysgol Ynni?

Penderfynodd grŵp Arloesi i gymeradwyo’r prosiect Ysgol Ynni am yr haf, mewn un ardal fach, er mwyn peilota’r cysyniad o redeg sesiynau ynni gwyrdd i blant o fewn cymunedau gwledig. Teimlwyd fod arbrofi gyda’r model hwn yn gyfle gwych i ddysgu a rhannu’r arfer da gyda chymunedau eraill.

Aeth grŵp Arloesi ymlaen i benodi person ifanc lleol i gynorthwyo gyda chydlynu’r sesiynau, er mwyn cynnig profiadau pellach. Roeddem yn lwcus iawn o dderbyn cais gan Elin Williams o Penisarwaun i weithio ar gynllun Ysgol Ynni yn ystod yr haf, cyn iddi symud ymlaen i astudio cwrs Meistr mewn ‘Rheolaeth Ynni’ ym mhrifysgol Stirling ym mis Medi. Yn ei hamser rhydd, mae Elin yn oruchwyliwr yn Gelli Gyffwrdd, Cymhorthydd Addysg Arbennig yn Ysgol Waunfawr ac yn gwirfoddoli o fewn grŵp Ynni Padarn Peris.

Mae Elin wedi bod yn gweithio efo ni yn swyddfa Arloesi ers pythefnos bellach, ac yn frwdfrydig a gwir ddiddordeb mewn ynni gwyrdd a gweithio gyda phlant. Mi fydd Elin efo ni nes ddiwedd Awst, ac mi fydd rhan o’i gwaith hi’n cynnwys creu taflenni gwybodaeth i fedru rhannu arferion da gyda chymunedau eraill.

Felly os oes gennych chi syniad am sesiynau diddorol i redeg gyda phlant neu bobl ifanc o fewn eich cymunedau chi, a ddim yn siŵr lle i ddechrau, yna dewch mewn cysylltiad.

Ar ben hynny, mae Elin hefyd yn gweithio efo ni ar adnabod safleoedd hydro cymunedol posib ar draws Gwynedd, yn dilyn llwyddiant diweddar Ynni Padarn Peris ac Ynni Ogwen. Mi fydd y gwaith archwilio wedi’i gwblhau erbyn diwedd Awst, lle byddem yn awyddus i ymgysylltu gyda’r cymunedau wedi’i hadnabod er mwyn amlygu’r cyfleoedd i sefydlu cynllun ynni cymunedol.

Mae’r Ysgol Ynni yn cyffwrdd ar un o brif amcanion rhaglen Arloesi Gwynedd, sef

AP22: Ennill tir yn sylweddol i ddealltwriaeth trigolion o’r agenda Carbon, eu rôl a’u cyfranogiad ynddi, a datblygiad cynyddrannol eu perchnogaeth ohoni.”

7aith – Byw. Creu. Perfformio.

7aith

Rydym bellach wedi penodi 7 myfyriwr perfformio i weithio ar y prosiect Byw a Bod Perfformio. Bydd y myfyrwyr yn sefyldu cwmni theatr “pop-up”  o’r enw 7aith a fydd yn gwneud perfformiadau artistig i gyflwyno iaith a diwylliant i ymwelwyr ar draws atyniadau twristiaeth Gwynedd dros fisoedd yr haf dan arweiniad Cwmni Franwen.

Dechreuodd y myfyrwyr ei gwaith ar y 27ain o Fehefin ac byddent yn gweithio ar y prosiect am 9 wythnos. Y tîm 7aith yw Steffan Chambers, Sioned Young, Owen Puw Williams, Elen Fôn, Gwenllian Jones-Griffith, Sara Anest ac Erin Ynyr.

7aith - diwrnod 1afDiwrnod 1af y myfyrwyr yn Stiwdio Franwen.

Mae twristiaeth yn gyflogwr mawr yng Ngwynedd ac mae’n cyfrannu’n sylweddol at yr economi. Fodd bynnag, anaml iawn y rhoddir llwyfan i iaith a diwylliant y rhanbarth o fewn y diwydiant, oherwydd efallai nad yw’r rhain yn cael eu hystyried o werth economaidd gwirioneddol. Mae hyn yn cyfateb i’r her a nodwyd yn Strategaeth Datblygu Leol Gwynedd, sef nodi ffyrdd o ychwanegu gwerth at iaith.

Yr wythnos hon mae’r tîm 7aith wedi bod ar daith ar draws atyniadau twristiaeth Gwynedd i ymchwilio am leoliadau posibl i berfformio. Byddant yn performio ar draws y lleoliadau dros gyfnod o dair wythnos, o’r 8fed o Awst hyd at 28ain o Awst 2016. (i’w gadarnhau)

13522069_1758993310979233_2717710140428736668_nErin, Gwenllian a Sara yn Gelli Gyffwrdd.

Dilynwch 7aith ar Twitter, Facebook, Snapchat (fw_7aith) a Instagram.

Mwy o fanylion am y prosiect Byw a Bod Perfformio yma.